Éire

An Conradh Ceilteach

ireland

* IMEACHTAÍ CHRAOBH na hÉIREANN THAR NA mBLIANTA

Mae Iwerddon yn parhau’n ranedig. Mae 26 sir y Weriniaeth wedi ffynnu’n ariannol gyda annibyniaeth, er mawr dicter y bychanwyr trefedigaethol Seisnig, ond mae yna nifer o faterion cymdeithasol i fynd i’r afael â nhw.
Mae’r iath Wyddeleg yn cael ei siarad yn eang drwy’r weriniaeth o ganlyniad i ofynion addysg yn yr ysgolion, ond mae nifer y siaradwyr brodorol yn crebachu. Mae datblygiadau diweddar sy’n ymwneud â’r iaith yn cynnwys:
• Deddf Ieithoedd Swyddogol 2003 sy’n gorfodi cyrff cyhoeddus i ddarparu gwasanaethau yn yr iaith Wyddeleg;
• Y Wyddeleg yn cael ei chydnabod fel iaith swyddogol yn yr UE yn 2007 (yr unig iaith Geltaidd i dderbyn cydnabyddiaeth o’r fath hyd yma);
• Cwmni Samsung yn cynnig y ffonau symudol cyntaf gyda’r Wyddeleg fel dewis arnynt yn 2008;
• Ysgolion cyfrwng Gwyddeleg yn agor yn flynyddol.
Yn y gogledd, cafodd yr iaith ei gwahardd yn yr ysgolion i bob pwrpas hyd nes y 1990au. Mae rhaniad sectyddol enfawr yn parhau yn y gymuned ac mae elfennau mwyaf digyfaddawd Unoliaeth / teyrngarwch yn cael eu hymyleiddio, ac mae lleisiau’r cenedlaetholwyr/gweriniaethwyr yn cael eu clywed. Ni fydd modd goresgyn y rhaniad yma hyd nes bydd gweriniaeth Iwerddon-gyfan yn cael ei sefydlu.
Cadeirydd Cangen Iwerddon: Cathal Ó Luain
Ysgrifennydd Cangen Iwerddon: Caoimhín Ó Cadhla

An Conradh Ceilteach Facebook

YMDRECHION CANGEN IWERDDON DROS Y BLYNYDDOEDD
• Cysylltu gyda’r wasg genedlaethol ar amrywiaeth o faterion er mwyn codi ymwybyddiaeth rhyng-Geltaidd, a darparu gwybodaeth am y gwledydd Celtaidd eraill.

• Trefnu picedi a gwrthdystiadau yn Llysgenhadaeth Ffrainc i gefnogi Llydaw a Llydawyr fel Yann Ber ar Mat a gafodd ei garcharu am wrthod gwasanaeth milwrol gorfodol Ffrainc, neu’r Llydawyr gafodd eu cadw’n y ddalfa am flynyddoedd heb brawf.

• Trefnu gwrthdystiadau ar y cyd gyda mudiadau iaith megis Conradh na Gaeilge a Chymdeithas yr Iaith Gymraeg ger adeiladau Llywodraeth Iwerddon â Llysgenhadaeth Prydain i gefnogi’r alwad am hawliau ieithyddol.

• Trefnu ysgolion haf yn Iwerddon ar gyfer Celtiaid o wledydd eraill, weithiau mewn cysylltiad â grwpiau cydweithredol lleol (Dulun, Ynys Clear, Connemara). Dosbarthiadau Gwyddeleg gyda darlithoedd am iaith, diwylliant a hanes Iwerddon.
• Dod â siaradwyr o’r mudiadau gwleidyddol Celtaidd o wledydd eraill (SNP, Plaid Cymru, Mec Vannin ayb) i Iwerddon i amlinellu eu sefyllfaoedd gwleidyddol a’u dyheadau. Darlithoedd am hanes, diwylliant ac iaith Llydaw a Chernyw.

• Trefnu tripiau i Ynys Manaw er mwyn dod i adnabod y wlad a’i hymgyrchwyr gwleidyddol ac ieithyddol. Presenoldeb aelodau o gangen Iwerddon yng Nghilmeri, Cymru ar gyfer coffâd Llewellyn. Trefnu trip i Gaeredin er mwyn cymryd rhan yng ngwrthdystiad y mudiad ‘Independence First’.
• Trefnu nosweithiau o farddoniaeth a dawns Manawaidd a gwahodd cerddorion Manawaidd o Glwb Chonradh na Gaeilge ar gyfer sesiynau canu a cherddoriaeth Manawaidd/Gwyddelig traddodiadol. Trefnu sesiynau rhyng-Geltaidd cyffredinol pan yn bosibl.
• Cyhoeddi achlysuron a lansiadau fel a wnaed ar gyfer ‘Y Papur Du ar Addysg Gwyddelig’ (cyhoeddiad ar y cyd rhwng Craobh na dTeicneolaithe, Conradh na Gaeilge a Changen Iwerddon o’r CG). Lansio ‘‘For a Celtic Future” (cyhoeddwyd gan y Cynghrair fel anrhydedd i Alan Heusaff) a lansio CARN 100, oedd yn cynnwys atodiad arbennig o farddoniaeth ym mhob iaith Geltaidd, fe’i darllenwyd yn yr holl ieithoedd Celtaidd yn ystod y lansiad.

• Cefnogi ymgyrchoedd y Cynghrair Geltaidd er enghraifft yr Ymgyrch Fonitro Milwrol a rhoi cyfweliadau Teledu a Radio ar agweddau penodol o’r rhain. Gweithredu penderfyniadau CCB y Cynghrair Geltaidd a sicrhau cynrychiolaeth a chyfranogiad Cangen Iwerddon mewn Cyfarfodydd Cyffredinol Blynyddol.
• Cyflenwi deunydd ar faterion gwleidyddol, ieithyddol, diwylliannol a materion cyfoes ar gyfer adran Iwerddon o’r cylchgrawn CARN a chyhoeddiadau blaenorol y Cynghrair.

Share this!
Share On Facebook
Share On Twitter
Share On Youtube
Contact us