• September 25, 2011

With a book launch in Ireland in July and another in Wales last week, one of the founding members of the Celtic League, Yann Fouéré, is proving that age is no barrier in keeping the Celtic spirit alive.

Despite being 101 years old, Mr Fouéré, who was one of the founding members of the Celtic League in 1961, has been launching his autobiography internationally this year, firstly in Clifden, Co Galway, Ireland in July and last week in Aberystwyth, Ceredigion, Wales. `La Maison’ in Connemara’ is set in the three Celtic countries of Breizh (Brittany), Cymru (Wales) and Éire (Ireland), where Mr Fouéré each spent varying amounts of time. Mr Fouéré’s daughter, Rozenn Fouéré, is still in frequent contact with the Celtic League and invited representatives from the organisation to the book launch on 16th September.

An article about the book and a summary of Mr Fouéré’s life can be found below in Welsh, which has been reproduced from the website of the National Library of Wales, Aberystwyth.

“YanYann Fouéré – Lansiad Llyfr y Llydawr a ffodd i Gymru wedi’r Rhyfel

Llu, 12 Med 11 16:20:00

Ar nos Wener 16 Medi 2011 yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth lansir cofiant Llydawr di-ildio a orfodwyd i ffoi i Gymru ac yna’r Iwerddon.

La Maison – The History of a Breton yw ail cofiant Yann Fouéré a anwyd yn 1910. Bu’n un o sefydlwyr `Ar Brezhoneg er Skol’ yn 1934 – mudiad a grewyd i hyrwyddo dysgu Llydaweg a hanes Llydaw yn yr ysgolion ar adeg pan waharddwyd hynny gan Ffrainc. Yn ystod y Rhyfel bu’n olygydd ar ddau bapur Llydewig, La Bretagne a Dépêche de Brest ac yn aelod o Comité Consultatif de Bretagne, corff ymgynghorol ar hawliau Llydewig a roddodd beth hawliau ym maes dysgu iaith a hanes Llydaw.

Gyda diwedd y Rhyfel arestiwyd miloedd o Lydäwyr oedd wedi bod yn weithgar mewn mudiadau ieithyddol a diwylliannol. Yn yr hinsawdd yma ffodd Yann Fouéré i Baris ac yna, o dan pasport ffug, i Gymru. Yng Nghymru cafodd loches gan DJ Davies a’i wraig Noelle yn Y Fenni gan symud ymlaen i aros gyda Gwynfor Evans yn Llangadog, DJ Williams yn Abergwaun, Gwenallt yn Aberystwyth. Bu’n lletya hefyd yn nhŷ y diweddar Delwyn Phillips o Aberystwyth a oedd yn byw yn Birmingham ar y pryd. Er iddo ganfod gwaith yn dysgu Ffrangeg yn y Brifysgol yn Abertawe bu’n rhaid iddo ffoi unwaith eto i’r Iwerddon er mwyn osgoi cael ei gosbi gan y Ffrancwyr. Canfyddodd ffoaduriaid Llydewig eraill yn yr Iwerddon ac yn y pendraw cydsefydlodd fusnes llwyddiannus yn ffermio ac allforio cimychiaid yn ardal Connemara yng ngorllewin y wlad.

Mae Yann Fouéré bellach yn 101 oed ac yn byw yn Sant Brieg, gefeilldref Aberystwyth. Yn 1958 fe’i difeiwyd gan lys ym Mharis o’r holl gyhuddiadau a wnaed yn ei erbyn yn dilyn Rhyfel. Mae ei gyfraniad i wleidyddiaeth a diwylliant Llydaw a’r gwledydd Celtaidd wedi bod yn sylweddol. Roedd yn gyfrannwr cyson i bapurau yn yr Iwerddon a Llydaw a sawl gwlad arall a hynny’n aml dan ffugenwau. Ymhlith ei waith mwyaf adnabyddus a dylanwadol mae L’Europe aux Cents Drapeaux a gyhoeddwyd yn 1968 ac a chyfieithwyd i’r Saesneg fel Towards a Federal Europe yn 1980. Ceir llawer o wybodaeth amdanno ac erthyglau ganddo ar wefan Fondation Yann Fouéré: www.fondationyannfouere.org

Cyfieithwyd La Maison – The History of a Breton gan ei ferch, Rozenn Fouéré Barrett. Ac fe’i cyhoeddir gan Old Chapel Press o’r Iwerddon. Bydd hi ai brawd,
Erwan, yn y lansiad yn y Llyfrgell Genedlaethol. Arweinir y noson gan Dafydd Wigley. Dyma fydd un o ddigwyddiadau olaf Dafydd fel Llywydd y Llyfrgell Genedlaethol.

Lansiad La Maison – The History of a Breton
6.30 nos Wener 16 Medi 2011
Y Drwm, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth
Tocynnau am ddim: www.llgc.org.uk/drwm

La Maison – The History of a Breton

ISBN 978-0-9560062-2-6, (www.oldchapelpress.net)

Gwefan Fondation Yann Fouéré: www.fondationyannfouere.org

Am wybodaeth bellach:

Siôn Jobbins, Swyddfa’r Wasg LlGC: 01970 632902 post@…”

Links:

National Library of Wales:

English – https://www.llgc.org.uk/index.php?id=160
Welsh – https://www.llgc.org.uk/index.php?id=160&L=1

Yann Fouéré Foundation:

Home

For comment or clarification on this news item in the first instance contact:

Rhisiart Tal-e-bot, General Secretary, Celtic League:

Tel: 0044 (0)1209 319912
M: 0044 (0)7787318666

gensec@celticleague.net

The General Secretary will determine the appropriate branch or General Council
Officer to respond to your query.

ISSUED BY THE CELTIC LEAGUE INFORMATION SERVICE.

24/09/11

About Author

admin

0 0 votes
Article Rating
Subscribe
Notify of
0 Comments
Oldest
Newest Most Voted
Inline Feedbacks
View all comments
The Celtic League
0
Would love your thoughts, please comment.x
()
x